Salmau 89:29-32-49-50 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

3-4. Dywedaist ti, “Cyfamod grasA wneuthum â’m gwas Dafydd:‘Mi sicrhaf dy had mewn heddA’th orsedd yn dragywydd’”.

29-32. Fe bery’i orsedd byth; ei blant,Os llygrant f’ordeiniadau,Neu dorri fy ngorchmynion da,A gosbaf â fflangellau.

33-34. Ond deil fy nghariad, er pob gwall;Di-ball fydd fy ffyddlondeb.Ni wadaf ddim a draethais i,Na thorri fy nghytundeb.

35-37. Mi dyngais i’m sancteiddrwydd lwI’w gadw byth â DafyddY pery ei had a’i orsedd efCyhyd â’r nef dragywydd.”

38-39. Ond eto, fe droist heibio friD’eneiniog di, a’i wrthod,A thaflu i’r llawr ei goron bur,Diddymu’r hen gyfamod.

40-41. Mae’i furiau yn furddunod prudd,A’i geyrydd yn adfeilion;Ysbeilir ef gan bawb yn ffri;Mae’n destun sbri cymdogion.

42-43. Ei wrthwynebwyr nawr sydd ben,A llawen ei elynion.Fe bylaist fin ac awch ei gleddA gomedd dy gynghorion.

44-45. Fe fwriaist orsedd hwn i’r llawr,A dryllio o’i law’r deyrnwialen,Byrhau’i ieuenctid, a rhoi tostGywilydd drosto’n gaenen.

46-48. Ai byth, O Dduw, y cuddi di?Ond cofia fi, sy’n feidrol.Pa ddyn fydd byw heb weld ei dranc?A ddianc neb rhag Sheol?

49-50. O Dduw, ple mae dy gariad di,A dyngaist gynt i Ddafydd?Gwêl fel yr wyf yn dwyn ar goeddSarhad y bobloedd beunydd.

Salmau 89