Salmau 89:25-26-40-41 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

3-4. Dywedaist ti, “Cyfamod grasA wneuthum â’m gwas Dafydd:‘Mi sicrhaf dy had mewn heddA’th orsedd yn dragywydd’”.

25-26. Dros yr afonydd oll a’r môrRhof iddo’r fuddugoliaeth;A dywed ef, ‘Fy nhad, ti ywFy Nuw a’m hiachawdwriaeth’.

27-28. Yn brif etifedd mi a’i gwnaf,Yr uchaf o’r brenhinoedd.Deil fy nghyfamod yn ddi-wadA’m cariad yn oes oesoedd.

29-32. Fe bery’i orsedd byth; ei blant,Os llygrant f’ordeiniadau,Neu dorri fy ngorchmynion da,A gosbaf â fflangellau.

33-34. Ond deil fy nghariad, er pob gwall;Di-ball fydd fy ffyddlondeb.Ni wadaf ddim a draethais i,Na thorri fy nghytundeb.

35-37. Mi dyngais i’m sancteiddrwydd lwI’w gadw byth â DafyddY pery ei had a’i orsedd efCyhyd â’r nef dragywydd.”

38-39. Ond eto, fe droist heibio friD’eneiniog di, a’i wrthod,A thaflu i’r llawr ei goron bur,Diddymu’r hen gyfamod.

40-41. Mae’i furiau yn furddunod prudd,A’i geyrydd yn adfeilion;Ysbeilir ef gan bawb yn ffri;Mae’n destun sbri cymdogion.

Salmau 89