1-3. Gwrando, O fugail Israel, sy’nEin harwain ni o hyd,Uwch y cerwbiaid yr wyt ti’nTeyrnasu dros y byd.Adfer Fanasse, Benjamin,Ac Effraim, dy braidd mud.Tro dy wyneb atom; gwared ni.
4-7. Arglwydd, pa hyd y troi i ffwrddOddi wrth ein gweddi dlawd?Rhoist fara dagrau ar ein bwrdd,A gwnaethost ni yn wawd.Arglwydd y Lluoedd, adfer ni,A’n hachub rhag ein ffawd.Tro dy wyneb atom; gwared ni.
14-19. O Dduw y Lluoedd, cadw diDy winllan rhag pob clwy;Am y rhai sy’n ei llosgi hi,Cerydda a difa hwy.Arglwydd y Lluoedd, adfer ni.Ni thrown oddi wrthyt mwy.Tro dy wyneb atom; gwared ni.