5-6. Ac eto, ti a’n gwnaethostYchydig bach islawY duwiau; rhoist awdurdodI ni dros waith dy law.Coronaist ni â mawredd,A gosod dan ein traed,Er ein mwynhad a’n defnyddY cyfan oll a wnaed:
7-9. Yr ychen yn y meysydd,Y defaid oll a’r myllt,A’r anifeiliaid rheibus,Y pysg a’r adar gwyllt,A phopeth sy’n tramwyoTrwy’r dyfroedd oll i gyd,O Arglwydd, mor ardderchogDy enw drwy’r holl fyd.