Salmau 5:1-3-4-5a Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. O gwrando ’ngeiriau, Arglwydd da,Ystyria ’nghwyn, a chlywFy nghri am gymorth gennyt ti,Fy Mrenin i a’m Duw.

4-5a. Disgwyliaf am y bore bach,Pan glywi di fy llais.Ni saif y drwg yn d’wyddfod byth,Ni hoffi neb trahaus.

11-12. Ond llawenhaed a chaned pawbSy’n caru d’enw drud.Bydd tarian ffafr dy fendith drosY cyfiawn yn y byd.

Salmau 5