1-2. Fe glywsom gan ein tadau,O Arglwydd, am y gwaithA wnaethost yn eu dyddiauDros y blynyddoedd maith.Fe droist genhedloedd allan,Ond eto’u plannu hwy.Difethaist bobloedd lawer,Ond llwyddo’n tadau’n fwy.
11-14. Fe’n lleddaist megis defaid,A’n gwasgar ledled byd.Fe’n gwerthaist ni heb elw,A’n gwneud ni’n warth i gyd,Yn destun gwawd a dirmygPob cenedl is y nen.Fe’n gwnaethost yn ddihareb,A’r bobl yn ysgwyd pen.