Salmau 41:1-2a-7-8 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2a. Gwyn fyd y sawl sy’n meddwl amY tlawd, cans fe fydd DuwYn gwared hwn rhag adfyd blinAc yn ei gadw’n fyw.

2b-3. Fe’i gwna yn ddedwydd yn y tir,Nis rhydd i fympwy cnaf.Fe’i cynnal ef, a pharatoiEi wely pan fo’n glaf.

4. Dywedais innau, “Trugarha,O Arglwydd, wrthyf fi;Iachâ fi’n awr, oherwydd gwnIm bechu yn d’erbyn di”.

5. Dirmyga fy ngelynion fi,Gan ddweud mewn gwawd, “Pa brydY bydd ef farw, a dileuEi enw ef o’r byd?”

6. Pan ddelo un i’m gweld, mae’i sgwrsYn rhagrith oll i gyd;Hel clonc amdanaf yw ei nodI’w thaenu ar y stryd.

7-8. Fe sisial pawb sy’n fy nghasáuÂ’i gilydd am fy nghlwy:“Mae rhywbeth marwol arno’n siŵr;Ni chyfyd eto mwy”.

10. O adfer fi yn awr, fy Nuw,O Arglwydd, trugarha,A lle y gwnaethant imi ddrwgMi dalaf innau dda.

11. Caf wybod imi gael dy ffafrPan na fydd llawenhauGan fy ngelynion ar fy nhraul,A thi yn fy mywhau.

12-13. Cynheli fi, cans cywir wyf,Yn d’wyddfod byth heb sen.Duw Israel, bendigedig foAm byth. Amen. Amen.

Salmau 41