1. Dywedais, “Gwyliaf rhagPechu âm tafod rhwydd.Rhof ar fy ngenau ffrwyn pan fo’rDrygionus yn fy ngŵydd.
2-3. Bûm ddistaw, ond i beth?Gwaethygu a wnaeth fy nghri;Llosgodd fy holl deimladau’n dânO’m mewn, ac meddwn i:
4. Dysg imi, Arglwydd Dduw,Fy niwedd; dangos diMor brin fy nyddiau yn y byd,Mor feidrol ydwyf fi.
5. Gwnaethost fy nyddiau i gydFel dyrnfedd, ac nid ywFy oes yn ddim i ti, cans chwaO wynt yw pob un byw:
11-12a. Drylli fel gwyfyn bawbPan gosbi’n pechod ni.Yn wir, mae pawb fel chwa o wynt.O Arglwydd, clyw fy nghri.
12b-13. Pererin estron wyf,Fel fy holl dadau i gyd.Tro draw dy lid a’m llawenhauCyn imi fynd o’r byd.”