22. Rhydd Duw ei etifeddiaeth haelI’r sawl sy’n cael ei fendith,Ond torrir ymaith y rhai casA brofodd flas ei felltith.
23-24. Cyfeiria’r Arglwydd gamau’r da,Fe’i gwylia ef yn ddyfal;Er iddo gwympo, cwyd yn rhwydd:Mae’r Arglwydd yn ei gynnal.
25. Yr holl flynyddoedd y bûm bywNi welais Dduw hyd ymaYn troi ei gefn ar unrhyw santNa pheri i’w blant gardota.
26-27. Hael a thrugarog ydyw’r da,A’i blant ef a fendithir.Tro oddi wrth ddrwg; gwna’r hyn sydd dda,A’th gartref a ddiogelir.
28-29. Oherwydd câr yr Arglwydd farn,Ni sarn ar ei ffyddloniaid;Ond torrir plant y drwg o’r tir,Difethir pechaduriaid.