1. O Arglwydd, barna fi.Rhodiais yn gywir iawn,A rhois, heb ballu, ynot tiFy ymddiriedaeth lawn.
2-3. Chwilia fy meddwl; rhoBrawf ar fy nghalon i.Cadwaf fy nhrem, wrth rodio ymlaen,Ar dy ffyddlondeb di.
4-5. I’r diwerth ni bûm ffrind,Nac i ragrithwyr gau;Ni chedwais gwmni i rai drwgYr wyf yn eu casáu.
10-12. Y rhai y mae’u llaw dde’nLlawn llwgrwobrwyon brad,Ond gwared fi, cans cywir wyf;Bendithiaf di, O Dad.