Salmau 20:1-4-5-6 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. O bydded i’r Arglwydd dy atebYn nydd dy gyfyngder i gyd,I enw Duw Jacob d’amddiffynO’i gysegr yn Seion o hyd.Boed iddo ef gofio d’offrymauA ffafrio aberthau dy glod.Cyflawned ddymuniad dy galon,A dwyn dy gynlluniau i fod.

5-6. A bydded i ni orfoledduYn dy fuddugoliaeth a’th fri.Yn enw ein Duw codwn faner,Rhoed yntau a fynni i ti.Yn awr gwn fod Duw yn gwaredu’iEneiniog, a’i ateb o’r nef.Y mae’n ei waredu yn nerthol,Cans mae ei ddeheulaw’n un gref.

Salmau 20