11-13a. Rhybuddiant ni; o’u cadw gwobr a fydd.Glanha fi oddi wrth fy meiau cudd.Rhag pechod hyf, a yrr dy was ar ŵyr,O cadw fi, rhag iddo ’nhrechu’n llwyr.
13b-14. Caf yna fod heb fai na phechod mawr.Boed geiriau ’ngenau wrth dy fodd yn awrA’m holl feddyliau’n gymeradwy i ti,O Arglwydd Dduw, fy nghraig a’m prynwr i.