1-2. O molwch yr Arglwydd! Boed newydd eich cânYmhlith cynulleidfa’r ffyddloniaid yn dân.Boed Israel yn llon yn ei chrëwr a’i Duw,Clodfored plant Seion eu brenin a’u llyw.
3-5. Â thympan a thelyn, ar ddawns ysgafn droedMoliannwch! Mae’n Duw’n caru’i bobl erioed.Mae’n gwared y gwylaidd. O bydded i’r saintRoi mawl mewn gogoniant gan gymaint eu braint.