Salmau 114:1-2-5-6 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Pan ddaeth Israel allanGynt o wlad yr Aifft,O blith pobl estron,Rhai â dieithr iaith,Rhoes yr Arglwydd Jwda’nGysegr iddynt hwy,A thir Israel ydoeddEu harglwyddiaeth mwy.

3-4. O weld hyn, fe gilioddTonnau’r môr, a throddYr Iorddonen hithauYn ei hôl o’i bodd.Neidiodd y mynyddoeddMegis hyrddod ffôl;Pranciodd yr holl fryniauMegis ŵyn ar ddôl.

5-6. Beth sydd arnoch, donnau’rMôr, eich bod yn ffoi?Tithau, li’r Iorddonen,Pam dy fod yn troi?Pam yr ydych, fryniau,A’r mynyddoedd mwy’nNeidio megis hyrddod,Prancio megis ŵyn?

Salmau 114