Salmau 111:1b-2-5-6 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1b-2. Diolch a wnaf i’r Arglwydd â’m holl fod;Gyda’r gynulleidfa uniawn seiniaf glod.Mawr yw ei weithredoedd, fe’u harchwilir mwyGan y rhai sy’n ymhyfrydu ynddynt hwy.

3-4. Llawn mawredd ac anrhydedd yw ei waith;Pery ei ddaioni i dragwyddoldeb maith.Fe wnaeth inni gofio’i ryfeddodau i gyd;Graslon a thrugarog ydyw Duw o hyd.

5-6. I bawb a’i hofna rhydd gynhaliaeth gref;Ac am byth fe gofia ei gyfamod ef.Profi a wnaeth ei rym pan roes i’w bobl hollDir ac etifeddiaeth y cenhedloedd oll.

Salmau 111