4-5a. Tyngodd Duw, “Yr wyt offeiriad,Fel Melchisedec, am byth”.Bydd yr Arglwydd yn amddiffynDy ddeheulaw yn ddi-lyth.
5b-6a. Pan ddaw dydd ei ddig, dinistriaHoll frenhinoedd balch y byd.Barna ymysg yr holl genhedloedd,Ac fe’u lleinw â meirwon mud.
6b-7. Fe ddinistria Duw benaethiaidGwledydd daear yn eu chwant;Ond fe rydd i frenin IsraelRym pan yf o ddŵr y nant.