1. Y sawl a drigo, doed yn nes,yn lloches y Goruchaf,Ef a ymerys i gael bodynghysgod hwn sydd bennaf.
2. Fy holl ymddiffyn wyd a’m llwydd,wrth fy Arglwydd y dwedaf:A’m holl ymddiried tra fwy fywsydd yn fy Nuw Goruchaf.
3. Cans ef a weryd yr oes dau,oddiwrth faglau yr heliwr:A hefyd oddiwrth bla, a haint,echrysaint, ac anghyflwr.
4. Ei esgyll drosod ef a rydd,dan ei adenydd byddiYn ddiogel: a’i wiredd gredfydd gylch a bwccled itti.
5. Ni ddychryni er twrf y nos,na’r dydd o achos hedsaeth.
6. Er haint, neu blâ mewn tywyll fydd,neu hanner dydd marwolaeth.
7. Wrth dy ystlys y cwympa mil,a dengmil o’th law ddeau:Ac ni ddaw drwg yn dy gyfyl,a thi a’i gwyl yn ddiau.
8. A’th lygaid y gweli di dâli’r enwir gwammal anian.