Salm 90:12-17 Salmau Cân 1621 (SC)

12. Dysg felly’n rifo’n dyddiau gwael,i’n calon gael doethineb.

13. Duw ba hyd? dyrd a dod yn hawddi’th weision nawdd ac undeb.

14. Yn forau iawn diwalla niâ’th fawr ddaioni eisoes,Fel y caffom ni lawen fydyn hyfryd dros yn heinioes.

15. Gwna ni yn llawen, buom bruddban oedd yn’ gystudd dybryd:A chwedi llawer blwyddyn drom,y rhai y cowsom adfyd.

16. O Dduw, gwna weled dy fawr waith,a’th wrthiau maith i’th weision:A’th odidowgrwydd, a’th ffyniant,ymysg eu plant a’i hwyrion.

17. Arnom ni doed rhâd Duw a’i nerth dda,i allu prydferth weithiaw,Duw dod ein gwaith mewn trefnidDuw trefna waith ein dwylaw.

Salm 90