Salm 88:6-11 Salmau Cân 1621 (SC)

6. Gosodaist fi mewn dyfnder trwch,ac mewn tywyllwch eithaf.

7. Rhoist bwys dy ddig ar y corph mau,a’th holl for-donnau arnaf.

8. Pellheist fy holl gydnabod da,r’wyf yn ffieidd-dra iddyn:Ni chaf fi fyned at un câr,yr wyf mewn carchar rhydyn.

9. Y mae fy ngolwg (gan dy lid)mewn gofid o fawr gystydd.Duw llefais arnad yn fy mraw,gan godi ’nwylaw beunydd.

10. Ai i’r meirw dangosi wyrth?a ddont i’th byrth i’th foli?

11. A draethir dy fawl yn y bedd,a’th ni lân wirionedd heini?

Salm 88