Salm 88:15-17 Salmau Cân 1621 (SC)

15. Truan ymron marwolaeth wyf,mewn trymglwyf o’m ieuenctyd:A'th ofni bum yn nychbeth gwael,gan ammau cael mo’r iechyd.

16. Dy ddig a lifodd drosof fi,d’ofn sydd i’m torri’n efrydd,Fel deifr y daethant yn fy nghylch,do, do, o’m hamgylch beunydd.

17. Ymhell oddiwrthyf rhoist bob câr,pob cyfaill hygar heibio: 18 A’m holl gydnabod a fu gynt,yr ydynt yn ymguddio.

Salm 88