Salm 86:3-7 Salmau Cân 1621 (SC)

3. Trugarha wrthif Arglwydd mâd,cans arnad llefa’n ddibaid:

4. Einioes dy wâs Duw llawenhâ,cans attad coda’ f’enaid:

5. Cans ti o Arglwydd ydwyd dda,i’th bobloedd a thrugarog,I’r rhai a alwant arnat ti,mae dy ddaioni’n bleidiog.

6. O Arglwydd clyw fy llais mor llym,a’m gweddi y’m myfyrdod:

7. Clywi fy llais, gweli fy nghlwyf,y dydd y bwyf i’m trallod.

Salm 86