Salm 78:21-30 Salmau Cân 1621 (SC)

21. Pan glybu Duw yr araith hon,fel tân yn wreichion nynnodd,Yn Iago ac yn Israel,gan lid yn uchel digiodd.

22. A’i ddig oedd am na chredent hwyi Dduw a’i fwyfwy fowredd,Ac na welent pa iechyd oeddyn ei weithredoedd rhyfedd.

23. Gorchymmyn wybren, a’i gwarhau,egoryd drysau’r nefoedd:

24. A Manna’n fwyd, fel gwenith nef,a lawiodd ef iw luoedd.

25. Rhoi i ddyn gael rhyw luniaeth da,sef bara yr Angylion:

26. Gyrru rhyd wybren ddwyrain wynt,gydâ’r deheuwynt nerthlon.

27. Fel y llwch y rhoes gig iw hel,ac adar fel y tywod:

28. Ynghylch eu gwersyll a’i trigfydd,y glawiai beunydd gawod.

29. Bwyta digon o wledd ddiwael,a chael eu bwyd dymunol:

30. Ac heb ommedd dim ar eu blys,nac mo’i hewyllys cnawdol.

Salm 78