Salm 74:11-18 Salmau Cân 1621 (SC)

11. Paham y tynni’n ol dy law,(sef dy ddeheulaw berffaith,Hon sydd i’th fonwes) allan tynn,a difa d’elyn diffaith.

12. Cans o’r dechreuad Duw ei hunydyw fy nghun a’m brenin,Fe a wnâ iechwydwriaeth hir,i bawb trwy’r tir a’i dilin.

13. Parthu a wnaethost di â’th nerthy mor, a’i anferth donnau,Gwahenaist, torraist, uwch y don,bennau y blinion ddreigiau.

14. Drylliaist di ben, (nid gorchwyl gwan)y Lefiathan anferth,I’th bobl yn fwyd dodaist efo,wrth dreiglo yn y diserth.

15. Holltaist y graig, tarddodd ffynnon,ac aeth yn afon ffrwd-chwyrn:A diysbyddaist yn dra sychafonydd dyfr-grych cedyrn.

16. Di biau’r dydd, di biau’r nos,golau a haul-dlos geinwedd:

17. Seiliaist y ddaiar, lluniaist hâf:a gauaf o’th ogonedd.

18. Fy Arglwydd bellach cofia hyn,i’r gelyn gynt dy gablu,Ac i’r ynfydion roi drwg fri,a’th enw di dirmygu.

Salm 74