Salm 73:5-12 Salmau Cân 1621 (SC)

5. Ac ni ddoe arnynt lafur blinhyd y bawn i’n eu deall,Na dim dialedd, na dim gwyn,fel y doe ar ddyn arall.

6. Am hynny syth maent yn ymddwyn,fel o fewn cadwyn balchder:A gwisgant am danynt yn dynn(megis dillad n) drowsder.

7. A’i llygaid hwynthwy wrth dewhaudoent yn folglymmau drosodd:A’i golud hwy, er hyn o wyn,uwch meddwl dyn a dyfodd.

8. Treuthu eu trowsder, bod yn dynn,a bostio hyn ar wasgar,

9. Egori safn at wybren fry,a thafod cry’ drwy’r ddaear.

10. Am hyn rhai o’i bobl ef â chwanta ymddychwelant yma,Yn gweled y dwfr yn loyw lâna thybio y cân eu gwala.

11. Cans ymresymmant hwn yn fyw,pa’m? ydyw Duw yn canfodPwy sydd yn ddrwg, a phwy sy’n dda?ydyw’r gorucha’n gwybod?

12. Wele y drygddyn mwya’i chwantcaiff fwyaf llwyddiant gwastad:Yn casglu golud a mawr dda,hwnnw sydd fwya’i godiad.

Salm 73