15. Hyn os dwedwn, a feddyliwn,o ryw feddalaidd ammau,Wele, a’th blant di y gwnawn gam,i ddwyn un llam a minnau.
16. Pan geisiwn ddeall hyn yn llwyr,o nerth fy synwyr ddynol,Hynny i’m golwg i oedd flin,nes cael rhyw rin ysprydol.
17. Ond pan euthym i gysegr Duw,lle cefais amryw olau,Yna deellais i pa weddy bydd eu diwedd hwythau.
18. Gwybum i ti eu gosod hwy,lle caent lam mwy’n y diwedd,Sef mewn lle llithrig rhwydd-gwymp trwch,anialwch anghyfannedd:
19. Ond gwedi dodaist iddynt wth,disymmwth y pallasant,Mynd o’r byd heb na lliw na llun,o’i hofn eu hun darfyddant.
20. Fel breyddwyd pan ddihunai un,y gwnai di iddun f’Arglwydd,O’r newid hon y caiff fy nghâs,drwy yr holl ddinas wradwydd.