Salm 73:14-17 Salmau Cân 1621 (SC)

14. Cael fy maeddu ar hyd y dydd:ond trwstan fydd uniondeb,Os y borau, ac os pryd nawn,myfi a gawn wrthwyneb.

15. Hyn os dwedwn, a feddyliwn,o ryw feddalaidd ammau,Wele, a’th blant di y gwnawn gam,i ddwyn un llam a minnau.

16. Pan geisiwn ddeall hyn yn llwyr,o nerth fy synwyr ddynol,Hynny i’m golwg i oedd flin,nes cael rhyw rin ysprydol.

17. Ond pan euthym i gysegr Duw,lle cefais amryw olau,Yna deellais i pa weddy bydd eu diwedd hwythau.

Salm 73