Salm 73:11-15 Salmau Cân 1621 (SC)

11. Cans ymresymmant hwn yn fyw,pa’m? ydyw Duw yn canfodPwy sydd yn ddrwg, a phwy sy’n dda?ydyw’r gorucha’n gwybod?

12. Wele y drygddyn mwya’i chwantcaiff fwyaf llwyddiant gwastad:Yn casglu golud a mawr dda,hwnnw sydd fwya’i godiad.

13. Ofer iawn fu i mi warhau,a llwyr lanhau fy nghalon:Golchi fy nwylo, caru gwir,a bod yn hir yn gyfion:

14. Cael fy maeddu ar hyd y dydd:ond trwstan fydd uniondeb,Os y borau, ac os pryd nawn,myfi a gawn wrthwyneb.

15. Hyn os dwedwn, a feddyliwn,o ryw feddalaidd ammau,Wele, a’th blant di y gwnawn gam,i ddwyn un llam a minnau.

Salm 73