Salm 73:1-5 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Ys da yw Duw i Israel,wrth bawb a wnel yn union:

2. Minnau llithrais, braidd na syrthiais,swrth-wael fu f’amcanion.

3. Cans cynfigennais wrth y ffwl,ar dyn annuwiol dihir,Braidd na chwympais pan y gwelaiseu hedd a’i golud enwir.

4. Can nad oedd arnynt rwymau caethi gael marwolaeth ddynol,Lle maent yn byw yn heini hyf,yn iraidd gryf ddigonol.

5. Ac ni ddoe arnynt lafur blinhyd y bawn i’n eu deall,Na dim dialedd, na dim gwyn,fel y doe ar ddyn arall.

Salm 73