Salm 72:6-11 Salmau Cân 1621 (SC)

6. Fo ddisgyn fel glaw ar wellt glâs,neu gafod frâs ar wastad,

7. Iw ddyddiau ef cerir yn iawn,a’r cyfiawn a flodeua.Ac aml fydd hedd ar ddaiar gron,tra fo’r lloer hon yn para.

8. Llwydda efe o for hyd for,o’r ffrwd hyd oror tiroedd:

9. Ei gâs ymgrymmnt, llyfant lwch,hyd yr anialwch cyrredd.

10. Cedyrn o Tharsus frenhinoedd,ac o’r ynysoedd canol,O Seba ac Arabia deg,doe bawb â’i anrheg reiol.

11. Yr holl frenhinoedd doent yn llu,a than ymgrymmu atto:A’r holl genhedloedd, fel yn gaeth,a wnant wasanaeth iddo.

Salm 72