Salm 71:20-24 Salmau Cân 1621 (SC)

20. Duw gwnaethost di ym’ fyw yn brudd,a gweled cystudd mynych,Troist fi i fyw, dychwelaist fi,drwy’ nghodi o’r feddrod-rych.

21. Mwy fydd fy mawredd nag a fu,troi i’m diddanu innau,

22. Yna y molaf dy air am hyn,ar nabl offeryn dannau.O Sanct Israel, canaf hynar delyn, ac â’m genau:

23. Am ytty wared f’enaid i,gwnâf i ti hyfryd leisiau.

24. Canaf y’t hefyd gyfion glodâ’m tafod: wyt iw haeddu:Am yt warthau a gwarthruddiaw,fy ngwas sy’n ceisiaw ’nrygu.

Salm 71