2. A chuddia fi dros ennyd bachrhag cyfrinach y rhai drwg:A rhag terfysg y rhai sy’n gwau,i wneuthur cammau amlwg.
3. Hogi tafodau fel y cledd,a dwedyd bustledd ddigon,Saethant ergydion i’m syrhau,a’r rhai’n oedd eiriau chwerwon.
4. I saethu’n ddirgel bigau dur,yn erbyn pur ei galon,Yn ddisymwth heb ofni neb,a thrwy gasineb creulon.
5. Ymgryfhânt hwy yngwaith y fall,gan guddio’n gall eu rhwydau,Yna y dwedant pwy a’n gwelyn bwrw dirgel faglau?
6. Gan chwilio dyfnder drygau trwch,o fewn dirgelwch eigion:A phawb iw gilydd yn rhoi nodo geuedd gwaelod calon.
7. Ond y mae Duw a’i saeth ynghudd,rhydd yn ddirybudd ergyd,Ef a dal adref yr hawl hon,yn ddyfn archollion gwaedlyd.