Salm 59:4-9 Salmau Cân 1621 (SC)

4. Duw rhedent hwy yn barod iawn,a dim ni wnawn iw herbyn.Edrych dithau, fy Arglwydd rhed,a thyred i’m hymddiffyn.

5. Ti Dduw y llu, Duw Israel,o deffro gwael enwiredd,I’r cenhedloedd na âd di’n rhâd,lle y gwnant drwy frâd eu trawsedd.

6. Maent hwy yn arfer gydâ’r hwyr,o’mdroi ar wyr o bobparth:A thrwy y ddinas clywch eu swn,un wedd a’r cwn yn cyfarth.

7. Wele maent a thafodau rhydd,awch cledd a fydd iw genau,Pwy meddant hwy all glywed hyn?ac a wna i’n herbyn ninnau.

8. Ond tydi fy Arglwydd a’m Duw,a’i gwel, ai clyw, a’i gwatwar:Am ben eu gwaith y chwerddi diy cenhedlaethi twyllgar.

9. Ti a attebi ei nerth ef,a’th law gref a’m hamddiffyn

Salm 59