Salm 5:1-5 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Arglwydd clyw ’ngweddi yn ddiball,Duw deall fy myfyrdod:

2. Erglyw fy llais a’m gweddi flin,Fy Nuw, a’m brenin hyglod.

3. Yn forau gwrando fi fy Naf,yn forau galwaf arnad:

4. Cans nid wyd Dduw i garu drwg,ni thrig i’th olwg anfad.

5. Ni saif ynfydion yn dy flaen,na’r rhai a wnaen anwiredd:Y rhai hyn sydd gennyt yn gâs,sef diflas yt bob gwagedd.

Salm 5