Salm 49:12-16 Salmau Cân 1621 (SC)

12. Ni phery dyn o gnawdol dras,mewn urddas er ei adail,Diau pob dyn, pan ddel ei ddydd,a derfydd fal anifail.

13. Dyma eu ffordd, ffordd ffioledd fydd,na welant ddydd yn passio.Er hyn eu hil a ddel iw’ holfydd yn eu canmol etto.

14. Angeu yw terfyn pob dyn byw,i hwn nid yw ond tamaid:Myned sydd raid o’r ty i’r bedd:yn rhwym un wedd a’r defaid.

15. Daw dydd i’r cyfion dranoeth teg,daw ym’ ychwaneg ystyn:Daw ym’ o’r bedd godiad i fyw,deheulaw Duw a’m derbyn.

16. Er codi o wr mewn parch neu dda,nac ofna di un gronyn:Ei olud ef, na’i barch, na’i dda,i’r bedd nid â iw ddylyn.

Salm 49