Salm 48:1-5 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Mawr ei enw’n ninas ein Duw,a hynod yw yr Arglwydd:A’i drigfan ef yno y sydd,ym mynydd ei sancteiddrwydd.

2. Tegwch bro, a llawenydd gwlâd,yw Seion lathriad fynydd,Yn ystlysau y gogledd lawr,tre’r brenin mawr tragywydd.

3. Adweinir Duw ’mhalasau honyn gymorth digon hynod.

4. Ac wele nerth brenhinoedd byddoent yno i gyd-gyfarfod.

5. A phan welsant, rhyfedd a fu,ar frys brawychu rhagor.

Salm 48