1. Traethodd fy nghalon bethau da,i’r brenin gwna’ fyfyrdod:Fy nhafod fel y pin, y syddyn llaw scrifennydd parod.
2. Uwch meibion dynion tegach wyd,tywalldwyd rhad i’th enau,Herwydd i Dduw roi arnat wlithei fendith byth a’i radau.
3. Gwisg dy gleddau yng wasg dy glun,o gadarn gun gogonedd:A hyn sydd weddol a hardd iawn,mewn llwydd a llawn orfoledd.