Salm 42:4-9 Salmau Cân 1621 (SC)

4. O gofio hyn wrthyf fy hun,fel tywallt ffun fy einioes:Ynghyd a theulu Duw yr awn,be cawn fy meddwl eisoes.Hyd at dy Dduw yn ystig iawnyr awn, dan ganu clodydd:Fel tyrfa a fai’n cadw gŵyl,hyn bum i’w ddisgwyl beunydd.

5. Trwm wyd f’enaid o’m mewn:paham y rhoi brudd lam ochenaid?

6. Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bronei wyneb tirion cannaid.

7. Fy enaid o’m mewn pan fo prudd,a â yn rhydd o’th gofion:A chofio yr Iorddonen iâch,ar mynydd bâch o Hermon.

8. Dyfnder is dyfnderau y sydd,ac ar eu gilydd galwant:A dwfr pob ffrwd, pob llif, pob ton,hwy dros fy mron a aethant.

9. Fy Naf a roes y dydd ym’ hedd,a’r nos gyfannedd ganu,I ganmawl fy Nuw, hwn a roesym’ einioes iw foliannu.

Salm 42