Salm 30:1-5 Salmau Cân 1621 (SC)

1. F’Arglwydd mi a’th fawrygaf di,cans myfi a ddyrchefaist,A’m gelynion i yn llawenuwchlaw fy mhen ni pheraist.

2. Fy Nuw, pan lefais arnat tiy rhoddaist i mi iechyd,

3. Cedwaist fy enaid rhag y bedd,a rhag diwedd anhyfryd.

4. Cenwch i’r Ion chwi ei holl saint,a maint yw gwyrthiau’r Arglwydd:A chlodforwch ef gar ei fron:drwy gofion o’i sancteiddrwydd.

5. Ennyd fechan y sai’n ei ddig,o gael ei fodd trig bywyd:Heno brydnawn wylofain fydd,y borau ddydd daw iechyd.

Salm 30