24. Cans ni’ch llysodd, ni’ch dirmygodd,ni chuddiodd ei wynebpryd,Eithr gwrandawodd weddi y gwan,a’i duchan yn ei adfyd.
25. Honot ti bydd, ac i ti gweddmewn aml orsedd fy moliant.I Dduw rhof f’addunedau’n llongar bron y rhai a’i hofnant.
26. Diwellir y tlodion:a’r rhai a geisiai yr ArglwyddA’i molant ef, fo gaiff (gwir yw)eich enaid fyw’n dragywydd.
27. Trigolion byd a dront yn rhwyddat yr Arglwydd pan gofiant:A holl dylwythau’r ddaear hondônt gar ei fron, ymgrymant.
28. Cans yr Arglwydd biau’r dyrnas,a holl gwmpas y bydoedd:Ac uwch eu llaw, ef unig syddben llywydd y cenhedloedd.