Salm 18:40-43 Salmau Cân 1621 (SC)

40. Fal hyn y gwnaethost imi gauar warrau fy ngelynion:A’m holl gas a ddifethais i,rhois hwynt i weiddi digon.

41. Ac er gweiddi drwy gydol dyddni ddoe achubydd attynt,Er galw’r Arglwydd:ni ddoe neb a roddi atteb iddynt.

42. Maluriais hwy fel llwch mewn gwynt,fal dyna helynt efrydd:Ac mi a’i sethrais hwynt yn ffrom,fel pridd neu dom heolydd.

43. Gwaredaist fi o law fy nghas,rhoist bawb o’m cwmpas danaf:Doe rai ni welsent fi erioeda llaw, a throed, hyd attaf.

Salm 18