Salm 147:5-10 Salmau Cân 1621 (SC)

5. Mawr yw ein Arglwydd ni o nerth,a phrydferth o rasoldeb:Ac mae’n bell iawn uwch ben pob rhif,son am ei brif ddoethineb.

6. Yr Arglwydd unic sydd yn dali gynnal y rhai gweiniaid,Ac ef a ostwng hyd y llawry dorf fawr annuwioliaid.

7. Cenwch i’r Arglwydd mal y gwedd,clodforedd iddo a berthyn:O cenwch, cenwch gerdd i’n Duw,da ydyw gyda’r delyn.

8. Hwn â chymylau troes y nen,â glaw’r ddayaren gwlychodd,I wellt gwnaeth dyfu ar y fron,a llysiau’i ddynion parodd.

9. Hwn i’r anifael ar y bryna rydd yr hwn a’i portho:Fe bortha gywion y cigfrain,pan fo’nt yn llefain arno.

10. Nid oes gantho mewn grym un march,na serch na pharch, na phleser:Nac mewn esgair, neu forddwyd gwr,fal dyna gyflwr ofer.

Salm 147