Salm 143:4-8 Salmau Cân 1621 (SC)

4. Yna fy ysbryd, mewn blin ing,a fu mewn cyfing-gyngor:

5. Ac ar fy nghalon drom daeth braw:ond wrth fyfyriaw rhagor.Mi a gofiais y dyddiau gynt,a helynt gwaith dy ddwylo:Am hyn myfyriais, fy Nuw Naf,am hyn myfyriaf etto.

6. Fy nwylaw attad rhois ar led,lle y mae f’ymddiried unig:Am danad f’enaid sydd yn wir,un wedd â’r tir sychedig.

7. Yn ebrwydd gwrando fi yn rhodd,o Arglwydd, pallodd f’yspryd:Rhag imi fyned i’r pwll du,fel rhai a ddarfu eu bywyd.

8. Par i’m ar frys glywed dy nawdd,cans ynot hawdd y credais:A dysg i’m rodio dy ffyrdd rhâd,cans f’enaid attad codais.

Salm 143