Salm 140:1-6 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Rhag y gwr drwg gwared fi (Ner,)rhag gwr y trowsder efrydd,

2. Rhai sy’n bradychu yn ddirgel,a chasglu rhyfel beunydd.

3. Fel colyn sarph yn llithrig wau,yw eu tafodau llymion:Gwenwyn yr Asp sydd yn parhaudan eu gwefusau creulon.

4. Rhag y dyn drwg, rhag y gwr traws,sy’n myfyr lliaws faglau,Duw gwared fi, rhag gosod brâd,ynghylch fy ngwastad lwybrau.

5. Y beilch cuddiasant fagl a rhwyd,wrth hon gosodwyd tannau:Ar draws fy ffyrdd i ddal fy ’nrhoed,ynghudd, y rhoed llinynnau.

6. Dwedais wrth f’Arglwydd fy Nuw wyd,tyn fi o’i rhwyd a’i maglau:O gwrando’n fuan f’Arglwydd nef,ar brudd lef fy ngweddiau.

Salm 140