Salm 13:1-3 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Pa hyd fy Arglwydd, Dduw dilyth?a’i byth yr wyf mewn angof?Pa guddio r’wyd, (o Dduw) pa hyd?dy lân wynebpryd rhagof?

2. Ba hyd y rhed meddyliau trobob awr i flino ’nghalon?Pa hyd y goddefaf y dir?dra codir fy nghaseion.

3. O Arglwydd edrych arnaf fi,a chlyw fy ngweddi ffyddlon.Egor fy llygaid, rhag eu cauynghysgfa angau ddigllon.

Salm 13