Salm 119:89-98 Salmau Cân 1621 (SC)

89. Byth yn y nef y pery d’air,o Dduw cair dy wirionedd.O oes i oes: sicrhe’ist y tirna siglir mo’i amgylchedd.

90. Safant byth wrth dy farnau di,maent i ti’n weision ufudd.

91. Oni bai fod dy ddeddf yn dda,i’n difa buasai gystudd.

92. A’th orchmynion y bywheist fi,am hyn y rhei’ni a gofiais.

93. Eiddoti wyf, Dduw achub fi,dy ddeddfau di a geisiais.

94. Disgwyl fy lladd mae’r anwir sur;

95. ’rwy’n ystyr dy dystiolaeth.

96. Ar bob perffeithrwydd mae terfyn,ond ar d’orchymyn helaeth.

97. Mor gu (o Arglwydd) gennyf fi,dy ddeddf di a’th gyfammod:Ac ar y rhai’n o ddydd i ddydd,y bydd fy holl fyfyrdod.

98. Gwnaethost ti â’th orchmynion iach,yn ddoethach nâ’m gelynion:Cans gyd â mi yn dragywydd,y bydd dy holl orchmynion.

Salm 119