Salm 119:89-93 Salmau Cân 1621 (SC)

89. Byth yn y nef y pery d’air,o Dduw cair dy wirionedd.O oes i oes: sicrhe’ist y tirna siglir mo’i amgylchedd.

90. Safant byth wrth dy farnau di,maent i ti’n weision ufudd.

91. Oni bai fod dy ddeddf yn dda,i’n difa buasai gystudd.

92. A’th orchmynion y bywheist fi,am hyn y rhei’ni a gofiais.

93. Eiddoti wyf, Dduw achub fi,dy ddeddfau di a geisiais.

Salm 119