Salm 119:45-51 Salmau Cân 1621 (SC)

45. Mewn rhyddid mawr rhodio a wnaf,a cheisiaf dy orchmynion.

46. A’th dystiolaethau rhof ar goedd,o flaen brenhinoedd cryfion.

47. Heb wradwydd llawen iawn i’m cairyn d’air, yr hwn a hoffais.

48. Codaf fy nwylo at dy ddeddfdrwy fyfyr, greddf a gredais.

49. Cofia i’th was dy air a’th raith,lle y rhois fy ngobaith arno.

50. Yn d’air mae ’nghysur, Ior, i gyd,yr hwn mae’ mywyd yntho.

51. Er gwatwar beilch ni throis ychwaithoddiwrth dy gyfraith hoyw-bur.

Salm 119