165. Y sawl a gâr dy air, cânt hedd,drwg nis goddiwedd mhonyn.
166. Gwiliais Arglwydd wrth dy iechyd,gan wneuthyd dy orchymmyn.
167. Dy ddeddf cadwodd fy enaid i,a hi yn fawr a hoffais.
168. Am fod fy llwybrau gar dy fron,d’orchmynion nid anghofiais.
169. O’th flaen Arglwydd nessaed fy nghri,dysg imi ddeall d’eiriau.
170. Gwared fi’n ol d’ymadrodd rhâd,del attad fy ngweddiau.
171. Dy fawl a draetha’ ngenau’n wychpan ddysgych ym’ dy ddeddfau.
172. Datgan fy nhafod d’air yn rhwydd,herwydd dy gyfiawn eiriau.