Salm 119:15-23 Salmau Cân 1621 (SC)

15. Dy ddeddf fy myfyr yw a’m drych,dy ffyrdd ’r wy’n edrych arnyn.

16. Mor ddirgrif ymy yw dy air,o’m cof nis cair un gronyn.

17. Bydd dda i’th wâs, a byw a wna,a’th air a gadwa’n berffaith:

18. A’m llygaid egor di ar lled,i weled rhin dy gyfraith.

19. Dieithr ydwyfi’n y tir,dy ddeddf wir na chudd rhagor.

20. O wir awydd i’r gyfraith hon,mae’n don fy enaid ynof.

21. Curaist feilch: daw dy felltith dii’r rhai sy’n torri d’eirchion.

22. Tro oddiwrthif fefl ar gais,cans cadwais dy orchmynion:

23. Er i swyddogion roi barn gas,rhoes dy wâs ei fyfyrdod

Salm 119