Salm 119:110-116 Salmau Cân 1621 (SC)

110. Yr annuwiolion i’r ffordd fau, rhoddasant faglau geirwon:Ni chyfeiliornais i er hyn,ond dylyn dy orchmynion.

111. Cymerais yn etifeddiaeth lân,byth weithiau dy orchmynion,O herwydd mai hwyntwy y sydd,lawenydd mawr i’m calon.

112. Gostyngais i fy nghalon bur,i wneuthur drwy orfoledd,Dy ddeddfau di tra fwy’n y byd,a hynny hyd y diwedd.

113. Dychmygion ofer caseis i,a’th gyfraith di a hoffais.

114. Lloches a tharian i’m i’th gair:wrth dy air y disgwyliais.

115. Ciliwch rai drwg oddiwrthiff,fy Nuw cadwaf ei gyfraith,

116. Cynnal fi â’th air, a byw a wnaf,ni wridaf am fy ngobaith.

Salm 119